A Ydy Duw yn Drindod?
Ateb y Beibl
Mae llawer o enwadau Cristnogol yn dysgu mai Trindod yw Duw. Ond, sylwch beth mae’r Encyclopædia Britannica yn ei ddweud: “Nid yw’r gair Trindod na’r ddysgeidiaeth benodol ohoni yn ymddangos yn y Testament Newydd . . . Fe ddatblygodd y ddysgeidiaeth yn raddol dros sawl canrif ac ar ôl llawer o ddadlau.”
Y ffaith amdani yw, dydy Duw’r Beibl byth yn cael ei ddisgrifio yn rhan o Drindod. Dyma beth ddywed y Beibl:
“Iehofah ein Duw, un Iehofah yw.”—Marc 12:29, Thomas Briscoe.
“Fel y gwypont mai tydi, yr hwn yn unig wyt JEHOFAH wrth dy enw, wyt Oruchaf ar yr holl ddaear.”—Salm 83:18, Beibl Cysegr-lân.
“Dyma beth ydy bywyd tragwyddol: iddyn nhw dy nabod di, yr unig Dduw sy’n bodoli go iawn, a Iesu y Meseia wyt ti wedi’i anfon.”—Ioan 17:3, beibl.net.
“Un yw Duw.”—Galatiaid 3:20, Beibl Cymraeg Diwygiedig.
Pam bod y rhan fwyaf o enwadau Cristnogol yn dweud bod Duw yn Drindod?