Pwy Sy’n Mynd i’r Nefoedd?
Ateb y Beibl
Mae Duw yn dewis nifer penodol o Gristnogion ffyddlon i gael eu hatgyfodi i’r nefoedd ar ôl iddyn nhw farw. (1 Pedr 1:3, 4) Er mwyn derbyn y wobr, mae’n bwysig eu bod nhw’n parhau i fod yn ufudd i Dduw ac i gadw eu ffydd yn gadarn.—Effesiaid 5:5; Philipiaid 3:12-14.
Beth fydd y rhai sy’n mynd i’r nefoedd yn ei wneud yno?
Byddan nhw’n frenhinoedd ac yn offeiriaid gyda Iesu am fil o flynyddoedd. (Datguddiad 5:9; 20:6) Nhw fydd y “nefoedd newydd,” sef y llywodraeth nefol a fydd yn teyrnasu dros y “ddaear newydd,” sef y gymdeithas newydd o bobl ar y ddaear. Bydd y llywodraethwyr nefol yn helpu’r ddynolryw i fyw yn y ffordd gyfiawn yr oedd Duw wedi ei fwriadu’n wreiddiol.—Eseia 65:17; 2 Pedr 3:13.
Faint fydd yn cael eu hatgyfodi i’r nefoedd?
Mae’r Beibl yn dangos y caiff 144,000 o bobl eu hatgyfodi i fywyd yn y nefoedd. (Datguddiad 7:4) Yn y weledigaeth a gofnodwyd yn Datguddiad 14:1-3, gwelodd yr apostol Ioan “yr Oen yn sefyll ar Fynydd Seion. Roedd cant pedwar deg pedwar mil o bobl gydag e.” Yn y weledigaeth hon, yr “Oen” yw Iesu ar ôl iddo gael ei atgyfodi. (Ioan 1:29; 1 Pedr 1:19) Mae “Mynydd Seion” yn cynrychioli safle pwysig Iesu a’r 144,000 sy’n teyrnasu gydag ef yn y nefoedd.—Salm 2:6; Hebreaid 12:22.
Mae’r Beibl yn dweud mai ‘praidd bach’ yw’r rhai “sydd wedi’u galw a’u dewis” i deyrnasu gyda Christ yn y Deyrnas. (Datguddiad 17:14; Luc 12:32) Mae hyn yn dangos eu bod nhw’n grŵp cymharol fach, o’u cymharu â gweddill defaid Iesu.—Ioan 10:16.
Camsyniadau am y rhai sy’n mynd i’r nefoedd
Camsyniad: Mae pob person da yn mynd i’r nefoedd.
Ffaith: Mae Duw yn addo y bydd y rhan fwyaf o bobl dda yn cael bywyd tragwyddol ar y ddaear.—Salm 37:10, 11, 29.
Dywedodd Iesu: “Does neb wedi bod i’r nefoedd.” (Ioan 3:13) Mae hynny’n golygu nad oedd neb a fu farw cyn Iesu wedi mynd i’r nefoedd, gan gynnwys Abraham, Moses, Job a Dafydd. (Actau 2:29, 34) Yn lle hynny, roedden nhw’n edrych ymlaen at gael eu hatgyfodi i fywyd ar y ddaear.—Job 14:13-15.
Yr enw ar gyfer yr atgyfodiad i fywyd yn y nefoedd yw’r “atgyfodiad cyntaf.” (Datguddiad 20:6) Felly, mae’n rhaid bod atgyfodiad arall yn dilyn. Atgyfodiad i’r ddaear fydd hwnnw.
Mae’r Beibl yn dysgu na “fydd dim marwolaeth” pan fydd Teyrnas Dduw yn llywodraethu. (Datguddiad 21:3, 4) Mae’n rhaid bod yr addewid hwn yn cyfeirio at y ddaear oherwydd nid yw marwolaeth yn bod yn y nefoedd.
Camsyniad: Gall pobl ddewis a fyddan nhw’n cael bywyd yn y nefoedd neu ar y ddaear.
Ffaith: Duw sy’n penderfynu pa Gristnogion ffyddlon sy’n derbyn yr “alwad i’r nefoedd.” (Philipiaid 3:14) Nid rhywbeth i ni benderfynu yw hyn.—Mathew 20:20-23.
Camsyniad: Mae byw yn y nefoedd yn well na byw ar y ddaear. Mae’r rhai fydd yn mynd i’r nefoedd yn well na’r rhai fydd yn byw ar y ddaear.
Ffaith: Mae Duw yn disgrifio’r rhai sy’n cael bywyd tragwyddol ar y ddaear fel “fy mhobl,” “y rhai dw i wedi eu dewis,” a’r rhai sydd “wedi eu bendithio.” (Eseia 65:21-23) Byddan nhw’n cael y fraint o wireddu bwriad gwreiddiol Duw ar gyfer y ddynolryw—sef byw am byth a throi’r ddaear yn baradwys.—Genesis 1:28; Salm 115:16; Eseia 45:18.
Camsyniad: Symbol, nid rhif llythrennol yw’r 144,000 yn llyfr Datguddiad.
Ffaith: Mae’n wir bod llyfr Datguddiad yn cynnwys rhifau symbolaidd, ond mae rhai o’r rhifau yn llythrennol. Er enghraifft, mae’n sôn am “enwau deuddeg apostol yr Oen.” (Datguddiad 21:14, Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig) Ystyriwch y rhesymau dros gredu mai rhif llythrennol yw 144,000.
Mae Datguddiad 7:4 yn disgrifio “cant pedwar deg pedwar o filoedd o bobl” sy’n cael eu dewis i fyw yn y nefoedd drwy “gael eu marcio gyda’r sêl.” Yna, mae’n cyfeirio at ail grŵp, sef “tyrfa mor aruthrol fawr, doedd dim gobaith i neb hyd yn oed ddechrau eu cyfri!” Mae’r rhain hefyd yn cael eu hachub gan Dduw. (Datguddiad 7:9, 10) Os mai rhif symbolaidd yw’r 144,000, ac mae’n cyfeirio at bawb sy’n cael eu hachub, ni fyddai’n gwneud synnwyr i’r Beibl sôn wedyn am grŵp gwahanol na all “neb hyd yn oed ddechrau eu cyfri.” a
Ar ben hynny, mae’r Beibl yn dweud bod y 144,000 wedi eu prynu “o blith y ddynoliaeth . . . fel ffrwythau cyntaf y cynhaeaf.” (Datguddiad 14:4) Rhan fach o gynhaeaf llawer mwy yw “ffrwythau cyntaf.” Felly mae’n ddisgrifiad da ar gyfer y rhai a fydd yn llywodraethu yn y nefoedd gyda Christ dros nifer di-rif o bobl ar y ddaear.—Datguddiad 5:10.
a Ynglŷn â’r rhif 144,000 yn Datguddiad 7:4, ysgrifennodd yr Athro Robert L. Thomas: “Rhif penodol yw hwn, yn wahanol i’r rhif amhenodol yn 7:9. Os cymerir y rhif hwn yn symbolaidd, yna ni ellir cymryd unrhyw rif arall yn y llyfr yn llythrennol.”—Revelation 1-7: An Exegetical Commentary, tudalen 474.