Beth Yw Teyrnas Dduw?
Ateb y Beibl
Mae Teyrnas Dduw yn llywodraeth go iawn sydd wedi cael ei sefydlu gan Jehofa Dduw. Yn y Beibl, mae “Teyrnas Dduw” hefyd yn cael ei galw’n ‘Deyrnas y nefoedd,’ am ei bod yn rheoli o’r nefoedd. (Marc 1:14, 15; Mathew 4:17) Mae elfennau ohoni yn debyg i lywodraethau’r byd, ond mae’n well na nhw ym mhob ffordd.
Pwy fydd yn rheoli? Mae Duw wedi penodi Iesu yn Frenin ar y Deyrnas, ac wedi rhoi mwy o awdurdod iddo nag y gallai unrhyw berson ar y ddaear ei gael. (Mathew 28:18) Mae Iesu eisoes wedi profi ei fod yn gweithredu er lles pawb drwy fod yn rheolwr dibynadwy a charedig. (Mathew 4:23; Marc 1:40, 41; 6:31-34; Luc 7:11-17) O dan arweiniad Duw, mae Iesu wedi dewis pobl o bob cenedl i ‘reoli fel brenhinoedd dros y ddaear’ gydag ef yn y nef.—Datguddiad 5:9, 10.
Am faint fydd hi’n para? Yn wahanol i lywodraethau’r byd sy’n mynd ac yn dod, fydd Teyrnas Dduw “byth yn cael ei dinistrio.”—Daniel 2:44.
Pwy sy’n cael byw o dan y Deyrnas? Unrhyw un sy’n gwneud beth mae Duw yn ei ofyn, ni waeth o ba deulu neu wlad maen nhw wedi dod.—Actau 10:34, 35.
Pa fath o gyfreithiau fydd ’na? Mae cyfreithiau (neu orchmynion) Teyrnas Dduw yn gwneud mwy na gwahardd ymddygiad drwg yn unig. Maen nhw’n helpu pobl i ddatblygu moesau da. Er enghraifft, mae’r Beibl yn dweud: “‘Mae’n rhaid iti garu Jehofa dy Dduw â dy holl galon ac â dy holl enaid ac â dy holl feddwl.’ Hwn yw’r gorchymyn pwysicaf a’r cyntaf. Yr ail, sy’n debyg iddo, ydy: ‘Mae’n rhaid iti garu dy gymydog fel ti dy hun.’” (Mathew 22:37-39) Mae cariad tuag at Dduw a chymydog yn cymell y rhai sy’n byw o dan y Deyrnas i feddwl am eraill cyn gweithredu.
Beth am addysg? Er bod Teyrnas Dduw yn gosod safonau uchel, mae hefyd yn dysgu pobl sut i gyrraedd y safonau hynny.—Eseia 48:17, 18.
Beth yw ei nod? Dydy rheolwyr Teyrnas Dduw ddim yn gwneud arian oddi wrth y rhai sy’n byw oddi tani. Yn hytrach, bydd yn cyflawni bwriadau Duw, gan gynnwys yr addewid y bydd pawb sy’n ei garu yn byw am byth mewn paradwys ar y ddaear.—Eseia 35:1, 5, 6; Mathew 6:10; Datguddiad 21:1-4.