CWESTIYNAU POBL IFANC
Beth Bydd yn Rhaid imi Ei Wneud ar ôl Bedydd?—Rhan 2: Aros yn Ffyddlon
Mae’r Beibl yn dweud: “Nid atal yr ARGLWYDD unrhyw ddaioni oddi wrth y rhai sy’n rhodio’n gywir.” (Salm 84:11, Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig) Beth ydy ystyr “rhodio’n gywir”? Mae’n golygu aros yn ffyddlon i Jehofa drwy fyw mewn ffordd sy’n dangos dy fod ti’n cadw’r addewid a wnest ti i Jehofa pan gysegraist dy fywyd iddo. (Pregethwr 5:4, 5) Sut gelli di aros yn ffyddlon i Jehofa ar ôl cael dy fedyddio?
Yn yr erthygl hon
Dal ati yn wyneb problemau
Adnod allweddol: “Mae’n rhaid inni fynd i mewn i Deyrnas Dduw drwy lawer o dreialon.”—Actau 14:22.
Mae hynny yn golygu: Bydd pob Cristion yn wynebu problemau mewn bywyd. Efallai bydd rhai’n gwneud hwyl am dy ben neu’n dy wrthwynebu oherwydd dy fod ti’n Gristion. Ar ben hynny, mae problemau ariannol neu broblemau iechyd yn gallu effeithio ar unrhyw un.
Beth i’w ddisgwyl: Bob hyn a hyn bydd dy amgylchiadau yn newid, weithiau mewn ffordd nad wyt ti’n ei hoffi. Mae’r Beibl yn dweud bod pethau drwg yn gallu digwydd i unrhyw un—p’un a ydyn nhw’n Gristnogion neu beidio.—Pregethwr 9:11.
Beth elli di ei wneud? Gan dy fod ti’n gwybod y bydd problemau’n codi, gelli di baratoi amdanyn nhw. Ystyria broblemau fel ffordd i gryfhau dy ffydd a chyfle i ddibynnu’n fwy ar Jehofa. (Iago 1:2, 3) Ymhen amser, byddi di’n medru dweud o dy brofiad dy hun, fel yr apostol Paul: “Mae gen i’r grym i wynebu pob peth drwy’r un sy’n rhoi nerth imi.”—Philipiaid 4:13.
STORI WIR. “Yn fuan ar ôl imi gael fy medyddio, cefnodd fy mrodyr ar y ffydd Gristnogol, aeth fy rhieni’n sâl, ac yna es i’n sâl hefyd. Fe fyddai wedi bod yn hawdd imi roi’r gorau iddi—i anghofio fy mod i wedi addo rhoi addoliad Jehofa yn gyntaf yn fy mywyd pan wnes i gysegru fy hun iddo. Ond mewn gwirionedd y ffaith fy mod i wedi cysegru fy hun i Jehofa oedd yn fy helpu i ymdopi â’r problemau.”—Karen.
Awgrym: Dysga am Joseff. Gelli di ddarllen am ei fywyd yn Genesis penodau 37 a 39 i 41. Ystyria: Pa broblemau annisgwyl a gododd yn ei fywyd, a sut gwnaeth Joseff ddelio â nhw? Sut gwnaeth Jehofa helpu Joseff?
Angen mwy o help?
Darllen:
Lawrlwytho:
Dal ati i wrthod temtasiwn
Adnod allweddol: “Mae pob un yn cael ei demtio trwy gael ei ddenu a’i hudo gan ei chwant ei hun.”—Iago 1:14.
Mae hynny yn golygu: Ar adegau, rydyn ni i gyd yn cael ein temtio gan deimladau a all ein harwain i wneud pethau drwg os nad ydyn ni’n eu rheoli.
Beth i’w ddisgwyl: Dydy “chwantau’r cnawd” ddim yn diflannu ar ôl iti gael dy fedyddio. (2 Pedr 2:18) Efallai byddi di’n cael dy demtio i gael rhyw cyn priodi.
Beth elli di ei wneud? Penderfyna nawr—cyn iti gael dy demtio—fel na fyddi di’n gadael i dy deimladau benderfynu drostot ti. Cofia, dywedodd Iesu: “Ni all neb wasanaethu dau feistr.” (Mathew 6:24) Gelli di ddewis pwy fydd dy feistr di. Dewisa Jehofa. Ni waeth pa mor gryf mae’r dymuniad anghywir, gelli di ddewis peidio ag ildio iddo.—Galatiaid 5:16.
Awgrym: Dysga beth yw dy gryfderau a dy wendidau. Dewisa ffrindiau a fydd yn dy helpu di i fod yn berson gwell. Bydd yn ofalus i osgoi pobl, llefydd, a sefyllfaoedd, a fydd yn ei gwneud hi’n anodd iti wneud beth sy’n iawn.—Salm 26:4, 5.
Angen mwy o help?
Dal ati i fod yn selog
Adnod allweddol: “[Byddwch] yr un mor weithgar . . . hyd at y diwedd, fel nad ydych chi’n troi’n ddiog.”—Hebreaid 6:11, 12.
Mae hynny yn golygu: Mae’n hawdd iawn inni laesu dwylo os nad ydyn ni’n canolbwyntio ar ein gwaith.
Beth i’w ddisgwyl: Roeddet ti’n llawn brwdfrydedd ar ôl iti gael dy fedyddio. Roeddet ti’n caru Jehofa yn fawr. Ond ar ôl sbel, efallai byddi di’n ei chael hi’n anodd dal ati i fod yn ufudd i Jehofa ym mhob ffordd, a gall hynny wneud iti ddigalonni a theimlo’n llai selog.—Galatiaid 5:7.
Beth elli di ei wneud? Dal ati i wneud y peth iawn, hyd yn oed os wyt ti’n teimlo am gyfnod nad ydy dy galon ddim ynddi. (1 Corinthiaid 9:27) Yn y cyfamser, tynna’n nes at Jehofa drwy ddod i’w adnabod yn well a thrwy weddïo’n aml. Hefyd gwna dy orau i ddod yn ffrindiau da gyda’r rhai sydd wrth eu boddau yn gwasanaethu Jehofa.
Awgrym: Cofia fod Jehofa yn dy garu di’n fawr iawn, a’i fod yn barod i dy helpu. Paid â meddwl bod Jehofa yn flin gyda ti os wyt ti wedi colli dy sêl am gyfnod. Mae’r Beibl yn dweud: “Fe sy’n gwneud y gwan yn gryf, ac yn rhoi egni i’r blinedig.” (Eseia 40:29) Ymhen amser, fe fydd yn bendithio dy ymdrech i fod yn fwy selog.
Angen mwy o help?
Darllen:
Gwylia:
Y gwir yw: Os wyt ti’n aros yn ffyddlon, bydd Jehofa yn hapus. (Diarhebion 27:11) Fe fydd yn hapus dy fod ti wedi penderfynu ochri gydag ef, ac fe fydd yn rhoi iti bopeth sydd ei angen er mwyn iti fedru gwrthsefyll ymosodiadau Satan.