Teithiau Tywys Bethel
Dewch ar daith dywys o gwmpas ein swyddfeydd cangen, sy’n aml yn cael eu galw’n Bethel. Mewn llawer o swyddfeydd mae arddangosfeydd hunan-dywys i’w gweld.
Teithiau Tywys Wedi Ailgychwyn: Mewn llawer o wledydd, mae teithiau tywys yn ein swyddfeydd cangen wedi ailgychwyn ers Mehefin 1, 2023. Am fanylion, cysylltwch â’r swyddfa gangen hoffech chi ymweld â hi. Plîs peidiwch ag ymweld os ydych chi’n cael prawf positif am COVID-19, os oes gynnoch symptomau annwyd neu ffliw, neu os ydych chi’n ddiweddar wedi bod mewn cyswllt â rhywun sydd wedi cael prawf positif am COVID-19.
Wcráin
Gwybodaeth am Deithiau Tywys
Arddangosfeydd
Yn ogystal â’r daith dywys, gallwch chi weld dwy arddangosfa. Mae un yn dangos hanes y gwaith pregethu yn Wcráin ers pan ddechreuodd dros gan mlynedd yn ôl hyd heddiw. Mae’n disgrifio sut cafodd Tystion Jehofa eu herlid pan oedd Wcráin yn rhan o’r Undeb Sofietaidd, a sut cafodd miloedd ohonyn nhw eu halltudio i Siberia. Mae’r arddangosfa arall yn dangos Beiblau prin ac yn pwysleisio sut mae cyfieithiadau Rwseg ac Wcreineg o’r Beibl wedi cadw enw Duw. Hefyd, gall ymwelwyr fynd ar daith hunandywys o’r gangen a chael lluniaeth bach yn y ganolfan ymwelwyr.
Cyfeiriad a Rhif Ffôn