STORI 62
Helynt yn Nheulu Dafydd
BENDITHIODD Jehofa deyrnasiad Dafydd yn Jerwsalem, ac enillodd byddin Israel un frwydr ar ôl y llall. Roedd Jehofa wedi addo y byddai’n rhoi gwlad Canaan i bobl Israel. Gyda help Jehofa, cymerodd yr Israeliaid yr holl dir.
Brenin da oedd Dafydd. Roedd yn caru Jehofa. Felly, un o’r pethau cyntaf a wnaeth ar ôl cipio Jerwsalem oedd symud arch y cyfamod i’r ddinas. Bwriad Dafydd oedd adeiladu teml ar gyfer yr arch.
Pan oedd Dafydd yn hŷn, gwnaeth gamgymeriad dybryd. Roedd yn gwybod nad oedd hi’n iawn i gymryd rhywbeth oedd yn perthyn i rywun arall. Ond un noson, pan oedd yn cerdded ar do’r palas, gwelodd ferch hardd iawn yn ymolchi. Ei henw hi oedd Bathseba, ac roedd hi’n wraig i Ureia, un o filwyr Dafydd.
Roedd Dafydd eisiau Bathseba gymaint nes iddo anfon ei weision i ddod â hi i’r palas. Roedd ei gŵr hi i ffwrdd gyda’r fyddin. Daeth Bathseba i’r palas a bu Dafydd yn caru gyda hi. Yn nes ymlaen, cafodd Dafydd wybod ei bod hi’n disgwyl babi. Roedd Dafydd yn poeni’n ofnadwy ac anfonodd neges at Joab, pennaeth y fyddin, yn gofyn iddo roi Ureia yn rheng flaen y gad er mwyn iddo gael ei ladd. Ar ôl i Ureia farw, priododd Dafydd â Bathseba.
Roedd Jehofa yn ddig iawn wrth Dafydd. Felly, anfonodd ei was Nathan i helpu Dafydd i weld pa mor ddrwg oedd ei bechodau. Wyt ti’n gweld Nathan yn y llun yn siarad â Dafydd? Roedd yn ddrwg calon gan Dafydd am yr hyn yr oedd wedi ei wneud ac felly, gadawodd Jehofa iddo fyw. Ond dywedodd Jehofa: ‘Oherwydd iti wneud yr holl bethau drwg hynny, fe fydd helynt yn dod i’th deulu.’ A dyna yn union beth ddigwyddodd!
Yn gyntaf, bu farw mab Bathseba. Yna cafodd Tamar, merch Dafydd, ei threisio gan ei hanner brawd Amnon. Pan glywodd Absalom, brawd Tamar, fe wylltiodd yn llwyr a lladdodd Amnon. Yn nes ymlaen, llwyddodd Absalom i’w wneud ei hun yn boblogaidd a’i gyhoeddi ei hun yn frenin. Yn y diwedd, enillodd Dafydd y rhyfel yn erbyn Absalom, ac fe gafodd Absalom ei ladd.
Yn y cyfamser, cafodd Bathseba fab o’r enw Solomon. Pan oedd Dafydd yn hen ac yn wael, ceisiodd un o’i feibion eraill, Adoneia, ei wneud ei hun yn frenin. Felly, gofynnodd Dafydd i offeiriad o’r enw Sadoc dywallt olew ar ben Solomon i ddangos mai ef fyddai’r brenin nesaf. Yn fuan wedyn, ar ôl teyrnasu am 40 o flynyddoedd, bu farw Dafydd a daeth Solomon yn frenin ar Israel.