RHAN 7
Pwy Oedd Iesu?
Fe wnaeth Jehofah anfon Iesu i’r ddaear. 1 Ioan 4:9
Os ydyn ni am blesio Jehofah, mae’n rhaid inni wrando ar ei fab. Ymhell cyn i Jehofah greu Adda, fe greodd angel grymus yn y nefoedd.
Ymhen amser, anfonodd Jehofah yr angel hwn i gael ei eni ym Methlehem trwy wyryf o’r enw Mair. Cafodd y plentyn ei enwi’n Iesu.—Ioan 6:38.
Fel dyn ar y ddaear, roedd Iesu’n adlewyrchu priodoleddau Duw yn berffaith. Roedd Iesu’n gariadus, yn garedig, ac yn hawdd mynd ato. Heb ofn, fe ddysgodd eraill y gwir am Jehofah.
1 Pedr 2:21-24
Fe wnaeth Iesu waith da, ond roedd rhai yn ei gasáu.Fe wnaeth Iesu iacháu’r rhai sâl, a chodi pobl o farw’n fyw.
Gan fod Iesu’n tynnu sylw at gau ddysgeidiaeth a drygioni’r arweinwyr crefyddol, roedden nhw’n ei gasáu.
Fe wnaeth yr arweinwyr crefyddol berswadio’r Rhufeiniaid i guro Iesu a’i ladd.