Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ATODIAD

Saliwtio’r Faner, Pleidleisio, a Gwasanaeth Sifilaidd

Saliwtio’r Faner, Pleidleisio, a Gwasanaeth Sifilaidd

Saliwtio’r faner. Mae Tystion Jehofa yn credu mai gweithred grefyddol yw saliwtio’r faner neu ymgrymu iddi. Mae’r weithred hon, sydd yn aml yn digwydd i gyfeiliant anthem, yn priodoli iachawdwriaeth i’r Wladwriaeth neu i’w harweinwyr yn hytrach nag i Dduw. (Eseia 43:11; 1 Corinthiaid 10:14; 1 Ioan 5:21) Arweinydd Babilon gynt oedd y Brenin Nebuchadnesar. Er mwyn dangos ei fawredd a’i sêl grefyddol, fe gododd ddelw anferth a gorfodi ei ddeiliaid i ymgrymu iddi i gyfeiliant cerddoriaeth a oedd yn debyg i anthem. Fodd bynnag, gwrthododd y tri Hebread—Sadrach, Mesach, ac Abednego—ymgrymu i’r ddelw, hyd yn oed dan gosb marwolaeth.—Daniel, pennod 3.

Wrth drafod cenedlaetholdeb modern, ysgrifennodd yr hanesydd Carlton Hayes: “Mae’r faner yn brif symbol o ffydd mewn cenedlaetholdeb ac yn wrthrych addoli. . . . Mae dynion yn tynnu eu hetiau wrth i’r faner fynd heibio, mae beirdd yn clodfori’r faner yn eu cerddi, ac mae plant yn canu emynau iddi.” Aeth ymlaen i ddweud bod i genedlaetholdeb ei “ddyddiau cysegredig,” fel y Pedwerydd o Orffennaf yn yr Unol Daleithiau, a hefyd ei “seintiau” a’i “arwyr” a’i “demlau” neu ei fannau cysegredig. Mewn seremoni gyhoeddus, dywedodd cadfridog byddin Brasil “fod y faner yn cael ei haddoli . . . yn union fel y mae’r Famwlad yn cael ei haddoli.” Yn wir, dywedodd yr Encyclopedia Americana: “Mae’r faner, fel y groes, yn gysegredig.”

Yn fwy diweddar dywedodd yr un gwyddoniadur fod anthemau cenedlaethol yn “mynegi teimladau gwladgarol ac yn aml yn gofyn i Dduw am iddo arwain ac amddiffyn y bobl neu eu harweinwyr.” Felly, dydy gweision Jehofa ddim yn afresymol wrth ystyried seremonïau gwladgarol sy’n cynnwys saliwtio’r faner a chanu anthemau cenedlaethol fel rhai crefyddol. Yn wir, wrth drafod plant Tystion Jehofa yn gwrthod talu gwrogaeth i’r faner a thyngu llw teyrngarwch yn ysgolion yr Unol Daleithiau, dywed y llyfr The American Character: “Mae natur grefyddol y defodau dyddiol hyn wedi ei gadarnhau bellach mewn cyfres o achosion yn y Goruchaf Lys.”

Er nad yw pobl Jehofa yn cymryd rhan mewn seremonïau y maen nhw yn eu hystyried yn anysgrythurol, maen nhw’n parchu hawl eraill i wneud hynny. Maen nhw’n parchu baneri a symbolau cenedlaethol ac yn cydnabod awdurdod y llywodraethau sy’n gwasanaethu fel “gwas Duw.” (Rhufeiniaid 13:1-4) Felly, mae Tystion Jehofa yn barod i weddïo “dros frenhinoedd a phawb sydd mewn awdurdod.” Ein cymhelliad yw “inni gael byw ein bywyd yn dawel a heddychlon, yn llawn duwioldeb a gwedduster.”—1 Timotheus 2:2.

Pleidleisio mewn etholiadau gwleidyddol. Mae gwir Gristnogion yn parchu’r hawl sydd gan bobl eraill i bleidleisio. Dydyn nhw ddim yn ymgyrchu yn erbyn cynnal etholiadau, ac maen nhw’n cydweithio â’r awdurdodau etholedig. Sut bynnag, maen nhw’n aros yn hollol niwtral o ran materion gwleidyddol. (Mathew 22:21; 1 Pedr 3:16) Beth dylai Cristion ei wneud mewn gwlad lle mae pleidleisio’n orfodol neu lle mae pobl yn gwrthwynebu’r rhai nad ydyn nhw’n mynd i’r bwth pleidleisio? O gofio bod Sadrach, Mesach, ac Abednego wedi mynd cyn belled â gwastadedd Dura, fe all Cristion, mewn sefyllfa debyg, benderfynu mynd i’r bwth pleidleisio heb iddo bechu ei gydwybod. Fodd bynnag, fe fydd yn ofalus i beidio â thanseilio ei niwtraliaeth. Dylai ystyried y chwech egwyddor ganlynol:

  1. Nid yw dilynwyr Iesu “yn perthyn i’r byd.”—Ioan 15:19.

  2. Mae Cristnogion yn cynrychioli Crist a’i Deyrnas.—Ioan 18:36; 2 Corinthiaid 5:20.

  3. Mae aelodau’r gynulleidfa Gristnogol yn gytûn o ran cred ac wedi eu rhwymo mewn cwlwm cariad.—1 Corinthiaid 1:10; Colosiaid 3:14.

  4. Mae’r rhai sy’n ethol swyddog yn gyfrifol i ryw raddau am yr hyn y mae yn ei wneud.—Sylwa ar yr egwyddorion yn yr adnodau canlynol: 1 Samuel 8:5, 10-18 a 1 Timotheus 5:22.

  5. Pan ofynnodd yr Israeliaid am frenin dynol, roedd Jehofa yn cymryd bod y bobl wedi Ei wrthod.—1 Samuel 8:7.

  6. Mae’n rhaid i Gristnogion gael y rhyddid moesol i siarad am lywodraeth Duw â phobl o bob cefndir gwleidyddol.—Mathew 24:14; 28:19, 20; Hebreaid 10:35.

Gwasanaeth sifilaidd. Mewn rhai gwledydd, mae’r Wladwriaeth yn mynnu bod y rhai sy’n gwrthod gwasanaeth milwrol yn gwneud rhyw fath o wasanaeth sifilaidd. Yn wyneb sefyllfa o’r fath, dylen ni weddïo am y peth, ac efallai ei drafod â Christion aeddfed, ac wedyn, ar ôl gwneud ymchwil, dylen ni benderfynu ar sail cydwybod.—Diarhebion 2:1-5; Philipiaid 4:5.

Mae Gair Duw yn dweud wrthon ni am “ymostwng i’r awdurdodau sy’n llywodraethu, i fod yn ufudd iddynt, a bod yn barod i wneud unrhyw weithred dda.” (Titus 3:1, 2) O gofio hynny, gofynna i ti dy hun: ‘A fydd derbyn gwaith sifilaidd yn tanseilio fy niwtraliaeth Gristnogol neu’n gwneud imi ymhél â gau grefydd?’ (Micha 4:3, 5; 2 Corinthiaid 6:16, 17) ‘A fyddai’r gwaith hwn yn ei gwneud hi’n anodd imi gyflawni fy nyletswyddau Cristnogol neu hyd yn oed yn fy rhwystro rhag eu cyflawni?’ (Mathew 28:19, 20; Effesiaid 6:4; Hebreaid 10:24, 25) ‘Ar y llaw arall, a fyddai ymgymryd â’r gwasanaeth sifilaidd hwnnw yn golygu fy mod i’n medru ehangu fy ngweithgareddau ysbrydol, neu hyd yn oed yn caniatáu imi gael rhan lawn amser yn y weinidogaeth?’—Hebreaid 6:11, 12.

Pe byddai Cristion yn penderfynu y gallai wneud rhyw fath o wasanaeth sifilaidd yn hytrach na mynd i’r carchar, dylai ei gyd-Gristnogion barchu ei benderfyniad. (Rhufeiniaid 14:10) Ond, os yw’n teimlo na allai wneud gwasanaeth o’r fath, dylid parchu’r penderfyniad hwnnw hefyd.—1 Corinthiaid 10:29; 2 Corinthiaid 1:24.