Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Edifeirwch

Edifeirwch

Pam mae’n rhaid i bob person droi at Jehofa Dduw ac edifarhau?

Rhu 3:23; 5:12; 1In 1:8

Gweler hefyd Act 26:20

  • Hanesion perthnasol o’r Beibl:

    • Lc 18:​9-14—Defnyddiodd Iesu eglureb i esbonio pam mae’n rhaid inni gyffesu ein pechodau a gweddïo ar Dduw am help

    • Rhu 7:​15-25—Er bod Paul yn apostol ac yn ddyn gyda ffydd anhygoel, roedd ei dueddiad i bechu yn ei boeni

Beth mae’r Beibl yn ei ddatgelu am deimladau Jehofa tuag at rai edifar?

Esec 33:11; Rhu 2:4; 2Pe 3:9

  • Hanesion perthnasol o’r Beibl:

    • Lc 15:​1-10—Defnyddiodd Iesu eglurebau i esbonio bod Jehofa a’r angylion yn llawenhau pan mae pechaduriaid yn edifarhau

    • Lc 19:​1-10—Gwnaeth Iesu faddau i gasglwr trethi o’r enw Sacheus ar ôl iddo edifarhau a stopio dwyn oddi ar eraill

Sut rydyn ni’n dangos ein bod ni’n wir yn edifar?

Sut gall gwybodaeth gywir helpu rhywun sy’n wir yn edifar?

Rhu 12:2; Col 3:​9, 10; 2Ti 2:25

  • Hanesion perthnasol o’r Beibl:

    • Act 17:​29-31—Gwnaeth yr apostol Paul esbonio i bobl Athen fod addoli eilunod yn arwydd o ddiffyg gwybodaeth, ac yna fe wnaeth eu hannog nhw i edifarhau

    • 1Ti 1:​12-15—Gwnaeth diffyg gwybodaeth achosi i’r apostol Paul bechu’n ddifrifol cyn iddo ddod i wybodaeth gywir am Iesu

Pa mor bwysig ydy edifeirwch?

Pam gallwn ni fod yn hyderus y bydd Jehofa’n maddau inni pan ydyn ni’n edifarhau, hyd yn oed os ydyn ni wedi pechu llawer o weithiau?

Esei 1:18; Ga 6:1; 1In 2:1

Sut mae Jehofa’n trin y rhai sy’n cyffesu eu pechodau ac yn newid eu ffyrdd?

Sal 32:5; Dia 28:13; 1In 1:9

Gweler hefyd “Trugaredd

Sut rydyn ni’n gwybod bod edifeirwch yn cynnwys mwy na theimlo’n drist yn unig?

2Cr 7:14; Dia 28:13; Esec 18:​30, 31; 33:​14-16; Mth 3:8; Act 3:19; 26:20

  • Hanesion perthnasol o’r Beibl:

    • 2Cr 33:​1-6, 10-16—Er bod y Brenin Manasse wedi gwneud pethau ofnadwy am amser hir iawn, dangosodd edifeirwch go iawn drwy ddarostwng ei hun, gweddïo’n ddi-baid, a newid ei ffyrdd

    • Sal 32:​1-6; 51:​1-4, 17—Edifarhaodd y Brenin Dafydd drwy deimlo’n ddrwg am bechu yn erbyn Jehofa, drwy gyffesu, a thrwy weddïo am faddeuant

Pam dylen ni faddau i rywun edifar sydd wedi pechu yn ein herbyn?