Camdriniaeth
Sut gallen ni deimlo os ydyn ni wedi cael ein trin mewn ffordd wael?
Sal 69:20; Dia 18:14; Pre 4:1-3; Mal 2:13-16; Col 3:21
Hanesion perthnasol o’r Beibl:
2Sa 10:1-5—Roedd y Brenin Dafydd yn garedig iawn tuag at rai o’r milwyr yn ei fyddin ar ôl iddyn nhw gael eu cywilyddio mewn ffordd greulon gan eu gelynion
2Sa 13:6-19—Roedd Tamar yn wylo a rhwygodd ei mantell ar ôl i Amnon ei threisio hi a chodi cywilydd arni
Beth sy’n dangos bod Jehofa’n gwybod am bopeth sy’n mynd ymlaen pan mae rhywun yn cael ei gam-drin, a beth bydd ef yn ei wneud am y peth?
Job 34:21, 22; Sal 37:8, 9; Esei 29:15, 19-21; Rhu 12:17-21
Gweler hefyd Sal 63:6, 7
Hanesion perthnasol o’r Beibl:
1Sa 25:3, 14-17, 21, 32-38—Gwnaeth Nabal, dyn creulon iawn, sarhau Dafydd a rhoi bywydau pawb yn ei dŷ mewn peryg. Yn nes ymlaen fe gafodd ei daro gan Jehofa a bu farw
Jer 20:1-6, 9, 11-13—Gwnaeth offeiriad o’r enw Passur daro Jeremeia a’i roi mewn cyffion; ar y dechrau roedd Jeremeia’n teimlo’n ddigalon, ond yna gwnaeth Jehofa ei galonogi a’i achub