CÂN 46
Diolchwn i Ti, Jehofa
-
1. Diolchwn i ti Fawr Jehofa ein Duw,
Gwrandawr gweddïau, ein Tad a’n Llyw.
Diolchwn i ti am gael gwybod y gwir,
Yn llewyrch i’n llwybr yw d’eiriau pur.
-
2. Cydganwn yn gôr i roi diolch i ti
Am roi dy Anwylyd i’n hachub ni.
Ar alaw rhown ddiolch i ti am ein ffydd,
Ym mhob dim diolchwn i ti bob dydd.
-
3. Llawn diolch yw’n lleisiau wrth ganu dy glod,
Rhoi gwybod amdanat yw’n braint a’n nod.
Yn fuan, daw’r Deyrnas â heddwch i’r byd,
Diolchgar i ti fyddwn ni o hyd.
(Gweler hefyd Salm 50:14; 95:2; 147:7; Col. 3:15.)