Cân 125
Ymostwng i’r Drefn Theocrataidd
1. Pobl Iôr Jehofa, gwaith cenhadu wnânt;
Traethant am y Deyrnas, ynddi llawenhânt.
Dwyfol drefn ddilynant, ufuddhau eu nod;
Eu hymroddiad teyrngar rydd i Dduw fawr glod.
(CYTGAN)
Darostyngedig, llwyr ymroddedig
Fyddwn i’n Iôr clodwiw;
Calon drylliedig—Duw gwynfydedig
Rhwymo wna â chariad triw.
2. Ymborth a ddosbartha’r goruchwyliwr call,
Ysbryd grymus Duw a’n tywys yn ddi-ball.
Cadarn fôm; cyhoeddi wnawn dros wyneb dae’r
Hynod wirioneddau’r amhrisiadwy Air!
(CYTGAN)
Darostyngedig, llwyr ymroddedig
Fyddwn i’n Iôr clodwiw;
Calon drylliedig—Duw gwynfydedig
Rhwymo wna â chariad triw.
(Gweler hefyd Luc 12:42; Heb. 13:7, 17.)