Cân 83

Rhaid Wrth Hunanddisgyblaeth

Rhaid Wrth Hunanddisgyblaeth

(Rhufeiniaid 7:14-25)

1. Carwn Jehofa â’n calon a’n nerth,

Ond pechod, dilorni wna Gyfraith o werth.

Dilyn y cnawd a ddwg in fawr loes;

Geiriau ysbrydol a rydd hir oes.

2. Satan gochelwn, ein temtio a wna;

Baich pechod a frwydra yn erbyn y da.

Trech na drygioni geiriau sy’n bur,

Glynu a fynnwn wrth Iôr geirwir.

3. Beunydd i’w enw anrhydedd a rown;

Daioni gweithredwn; i’w blesio ymrown.

Hunanddisgyblaeth, mawr ei llesâd;

Cwbl hanfodol yw’n ddiymwad.