Cân 69
Gwna Imi Wybod Dy Ffyrdd
(Salm 25:4)
1. Ymgynnull a wnaethom Jehofa ein Duw,
Dymunol dy wresog wahoddiad.
Gan lewyrch dy Air goleuir ein llwybr;
Dy addysg i’n byw rydd gyfeiriad.
(CYTGAN)
Pâr i mi ddeall d’eiriau, raslon Dduw;
O’u darllen a’u gweithredu byddaf byw.
Braint rhodio uchelfannau’r gwir a gaf,
Yn neddfau Duw cyfiawnder llawenhaf.
2. Doethineb aruchel yw d’eiddo, ein Iôr;
Ni phalla dy fawr dosturiaethau.
Myfyrio a wnawn ar Air sy’n rhyfeddod;
Tragwyddol lesâd sydd i’th farnau.
(CYTGAN)
Pâr i mi ddeall d’eiriau, raslon Dduw;
O’u darllen a’u gweithredu byddaf byw.
Braint rhodio uchelfannau’r gwir a gaf,
Yn neddfau Duw cyfiawnder llawenhaf.
(Gweler hefyd Ex. 33:13; Salm 1:2; 119:27, 35, 73, 105.)