Cân 99

Clodfori Brenin Newydd Daear

Clodfori Brenin Newydd Daear

(Datguddiad 7:9)

1. Mae pobloedd o bob llwyth ac iaith

yn awr yn cael eu casglu

Gan Grist a’i lân eneiniog rai,

yn dyrfa ddirifedi.

I’w grym daeth Teyrnas nefol wiw;

ar ddaear gwneler ’wyllys Duw.

Angorfa ddi-ffael ein gobaith yw.

Crist yn awr sy’n llywodraethu.

(CYTGAN)

Molwch Dduw Jehofa;

Moliant rhowch i Iesu,

Talwyd y pridwerth, diddymwyd gwae.

Gobaith sydd am fywyd bythol ar ddae’r.

Diolchwn, a’n Iôr mawrhau.

2. Gorseddwyd Iesu’n Frenin dae’r,

Tywysog Hedd Jehofa.

Ei gyfarch wnawn, teyrnasu mae;

rhown iddo floedd, ‘Hosanna!’

Mewn byd di-fraw fe gawn iachâd;

Rhag angau, meirwon gânt ryddhad;

Gorfoledd a geir hir ei barhad.

Daear ddaw yn deg breswylfa!

(CYTGAN)

Molwch Dduw Jehofa;

Moliant rhowch i Iesu,

Talwyd y pridwerth, diddymwyd gwae.

Gobaith sydd am fywyd bythol ar ddae’r.

Diolchwn, a’n Iôr mawrhau.

(Gweler hefyd Salm 2:6; 45:1; Esei. 9:6; Ioan 6:40.)